P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan People Over Profit, ar ôl casglu 120 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o “Bensaernïaeth Elyniaethus” gan sefydliadau i atal pobl ddigartref rhag cael lloches ac unrhyw strwythurau stryd eraill sydd wedi’u dylunio i atal neu guddio pobl ddigartref.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Castell-nedd

·         Gorllewin De Cymru